Fersiwn Saesneg o gyfrol hunangofiannol y cawr ym myd rygbi, Ray Gravell, Grav yn ei Eiriau ei Hun, wedi'i olygu gan Alun Wyn Bevan. Cyn ei farwolaeth annhymig, roedd Grav eisoes yn y broses o ysgrifennu ei hunangofiant. Mae'r gyfrol hon yn tynnu oddi ar nifer o ffynonellau gan gynnwys llawysgrif Grav, a thoreth o gyfweliadau radio a theledu. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2008. -- Cyngor Llyfrau Cymru